Cymeradwyo cynigion ar gyfer tai newydd ym Mhontywaun

18 Mawrth, 2025 | Newyddion, Uncategorized @cy

Mae cynigion i adeiladu tai fforddiadwy newydd ar safle hen gynllun tai lloches wedi cael eu cymeradwyo gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae Cartrefi Caerffili, sef adran dai y Cyngor, yn bwriadu adeiladu 16 o dai rhent cymdeithasol ar hen safle Cwrt y Castell ar Silver Street, Pont-y-waun.  Bydd y datblygiad yn cynnwys cymysgedd o fflatiau un ystafell wely, a thai dwy a thair ystafell wely.

Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys mannau gwyrdd cyhoeddus, gwaith tirlunio, a mannau parcio cerbydau i breswylwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai: “Mae hyn yn  newyddion i’w croesawu i’n helpu ni gyflawni’r addewid a wnaethom ni yn 2023 i ddarparu 1,000 o dai fforddiadwy carbon isel newydd dros y deng mlynedd nesaf.

“Bydd datblygiad Pont-y-waun yn ein galluogi ni i roi bywyd newydd i safle tai presennol a oedd bellach yn anaddas i’w ddiben gwreiddiol, gan helpu i ddiwallu’r angen cynyddol am dai fforddiadwy yn y Fwrdeistref Sirol.”

Newyddion arall

O weledigaeth i gymuned fywiog: agoriad swyddogol cynllun byw bywyd hŷn blaenllaw yn Rhisga

10 Mawrth, 2026
Darllen yr erthygl

Y Cyngor yn ceisio barn ar bolisi rhent canolradd

27 Ionawr, 2026
Darllen yr erthygl

Cynnydd yn natblygiad blaenllaw Lle Cwm Derwen

4 Rhagfyr, 2025
Darllen yr erthygl

Gwaith i ddechrau ar gyfleusterau newydd yn Ysgol Uwchradd Islwyn

24 Hydref, 2025
Darllen yr erthygl