Y Cyngor yn ceisio barn ar bolisi rhent canolradd

27 Ionawr, 2026 | Newyddion

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gwahodd trigolion i rannu eu barn ar bolisi rhent canolradd arfaethedig, wedi’i gynllunio i helpu mynd i’r afael ag anghenion tai lleol.

Mae rhent preifat yn codi ac mae data tai lleol yn dangos angen cryf am dai mwy fforddiadwy i’w rhentu ledled y Fwrdeistref Sirol. Byddai’r polisi arfaethedig yn cynorthwyo pobl nad ydyn nhw’n gallu fforddio prynu cartref ond sy’n gallu fforddio mwy na rhent cymdeithasol.

Gallwch chi rannu’ch barn drwy lenwi arolwg byr ar-lein sydd ar gael yma.

I gael copi caled o’r arolwg, neu gymorth i’w lenwi, e-bostiwch StrategaethADatblygu@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 863 121.

Bydd yr arolwg yn dod i ben ar 18 Chwefror.

Newyddion arall

Cymuned Tŷ Darran yn blodeuo gyda phrosiect garddio newydd

2 Medi, 2026
Darllen yr erthygl

Y Cyngor yn cadarnhau contractwr ar gyfer cartrefi newydd ym Mhont-y-waun

20 Awst, 2026
Darllen yr erthygl

Cabinet yn cymeradwyo polisi rhent canolradd

2 Mehefin, 2026
Darllen yr erthygl

Cyfleusterau newydd wedi’u hagor yn swyddogol yn Ysgol Uwchradd Islwyn

20 Mai, 2026
Darllen yr erthygl