Cymuned Tŷ Darran yn blodeuo gyda phrosiect garddio newydd

2 Medi, 2026 | Newyddion

Mae cymuned yn blodeuo yn Nhŷ Darran, wrth lansio prosiect garddio newydd.

Cafodd Tŷ Darran, sef cynllun byw bywyd hŷn yn Rhisga, ei agor yn swyddogol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ym mis Mawrth 2026; gyda phreswylwyr yn symud i’w cartrefi newydd yn fuan wedyn.

Fe wnaeth tîm Cartrefi Caerffili, sy’n rhan o’r Cyngor, weithio gyda SCAPE, sef darparwr fframwaith sector cyhoeddus, i gynorthwyo’r prosiect ‘Tyfu Gyda’n Gilydd’. Trwy’r cymorth hwn, mae’r prosiect wedi gallu prynu amrywiaeth o ddeunyddiau ac offer garddio, gan gynnwys offer llaw, caniau dŵr, menig, compost, hadau, bylbiau a phlanhigion.

Mae ‘Tyfu Gyda’n Gilydd’ yn gyfle i breswylwyr gymryd rhan mewn sesiynau garddio rheolaidd, plannu tymhorol a chynaeafu, yn ogystal â rhannu awgrymiadau a syniadau ynghylch tyfu planhigion, bwyd a gofalu am yr amgylchedd.

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Dai, Cyngor Caerffili, “Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi sicrhau’r cyllid i gychwyn y prosiect garddio yn Nhŷ Darran.

“Wrth i’r preswylwyr ymgartrefu yn eu cartrefi newydd, bydd yr ardd yn gyfle iddyn nhw ymwreiddio a chreu rhywbeth gyda’i gilydd. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld yr ardd, a’r cyfeillgarwch o’i chwmpas, yn tyfu.”

Dywedodd Alison Ramsey, Uwch Reolwr Effaith Gymdeithasol, SCAPE, “Mae creu gwerth cymdeithasol parhaol a helpu cymunedau i ffynnu wrth wraidd yr hyn rydyn ni’n ei wneud yn SCAPE. Trwy ddod â phreswylwyr at ei gilydd i arddio, dysgu a rhannu profiadau, bydd y prosiect yn helpu cryfhau cysylltiadau cymunedol wrth gynorthwyo iechyd a lles yn Nhŷ Darran.”

Newyddion arall

Y Cyngor yn cadarnhau contractwr ar gyfer cartrefi newydd ym Mhont-y-waun

20 Awst, 2026
Darllen yr erthygl

Cabinet yn cymeradwyo polisi rhent canolradd

2 Mehefin, 2026
Darllen yr erthygl

Cyfleusterau newydd wedi’u hagor yn swyddogol yn Ysgol Uwchradd Islwyn

20 Mai, 2026
Darllen yr erthygl

O weledigaeth i gymuned fywiog: agoriad swyddogol cynllun byw bywyd hŷn blaenllaw yn Rhisga

10 Mawrth, 2026
Darllen yr erthygl