O weledigaeth i gymuned fywiog: agoriad swyddogol cynllun byw bywyd hŷn blaenllaw yn Rhisga

10 Mawrth, 2026 | Newyddion

Mae cynllun byw bywyd hŷn blaenllaw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn Rhisga – Tŷ Darran – wedi’i agor yn swyddogol.

Cafodd preswylwyr a gwesteion eu diddanu gan Gôr Meibion Rhisga cyn i Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jamie Pritchard, a’r Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Dai, y Cynghorydd Shayne Cook, gyflwyno plac coffa.

Mae Tŷ Darran yn ddatblygiad arloesol, yn wahanol i unrhyw beth y mae’r Cyngor wedi’i gyflawni o’r blaen, ac wedi’i adeiladu i’r lefelau uchaf o ran effeithlonrwydd ynni.

Mae’r cynllun, a gafodd ei gyflawni gan yr arbenigwr adeiladu Willmott Dixon, yn darparu 45 o fflatiau byw bywyd hŷn o ansawdd uchel. Mae gan bob fflat ofod awyr agored preifat, yn ogystal ag amrywiaeth o ardaloedd cymunedol amlbwrpas dan do ac awyr agored sydd wedi’u cynllunio i hyrwyddo annibyniaeth, lles a chysylltiad cymunedol.

Bydd y preswylwyr cyntaf yn dechrau symud i’w cartrefi newydd yr wythnos hon.

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, “Mae Tŷ Darran yn gam mawr ymlaen o ran sut rydyn ni’n cynorthwyo byw bywyd hŷn ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’r datblygiad blaenllaw hwn yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu cartrefi modern o ansawdd uchel sy’n hyrwyddo annibyniaeth wrth greu ymdeimlad cryf o gymuned.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Shayne Cook, “Mae hyn yn gynllun arloesol sy’n gosod safon newydd i’r Cyngor. Mae gweld preswylwyr yn dechrau symud i mewn yr wythnos hon yn hynod werth chweil, ac rydyn ni’n falch o gyflawni datblygiad a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.

“Mae eisoes ymdeimlad gwirioneddol o gyffro a chymuned yma yn Nhŷ Darran. Mae preswylwyr wedi chwarae rhan ganolog ym mhob cam o’r daith – gan gynnwys enwi’r adeilad, dewis lliwiau a bod yn rhan o benderfyniadau allweddol. Mae’r cyfleoedd hynny i gymryd rhan wedi helpu creu cymuned, yn ogystal ag adeilad.”

Dywedodd Ian Jones, Cyfarwyddwr Willmott Dixon, “Rwy’n credu bod Tŷ Darran wedi dod yn ddatblygiad byw bywyd hŷn blaenllaw yn Rhisga. Mae’n enghraifft o’r hyn y gall cydweithredu gwirioneddol ei gyflawni. Mae tîm Cartrefi Caerffili, Willmott Dixon, partneriaid a rhanddeiliaid wedi gweithio’n ddi-dor fel un tîm integredig, o’r cysyniad hyd at ei gwblhau – gan oresgyn heriau cymhleth a gosod meincnod newydd ar gyfer adeiladu modern. Rydyn ni’n gobeithio y bydd Tŷ Darran yn dod yn fwy na dim ond lle i fyw – rydyn ni’n gobeithio y bydd yn dod yn gymuned, yn llawn cysur, cyfeillgarwch ac annibyniaeth am flynyddoedd i ddod.”

Newyddion arall

Cabinet yn cymeradwyo polisi rhent canolradd

2 Mehefin, 2026
Darllen yr erthygl

Cyfleusterau newydd wedi’u hagor yn swyddogol yn Ysgol Uwchradd Islwyn

20 Mai, 2026
Darllen yr erthygl

Y Cyngor yn ceisio barn ar bolisi rhent canolradd

27 Ionawr, 2026
Darllen yr erthygl

Cynnydd yn natblygiad blaenllaw Lle Cwm Derwen

4 Rhagfyr, 2025
Darllen yr erthygl