Y Cyngor yn cadarnhau contractwr ar gyfer cartrefi newydd ym Mhont-y-waun

20 Awst, 2026 | Newyddion, Uncategorized @cy

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cadarnhau y bydd yn gweithio mewn partneriaeth â’r contractwr Jones Brothers (Henllan) Ltd i ddod â chartrefi fforddiadwy newydd mawr eu hangen i Bont-y-waun.

Jones Brothers, a gafodd eu penodi yn dilyn proses gaffael gystadleuol, yw un o’r prif gwmnïau Peirianneg Sifil ac Adeiladu yn Ne Cymru. Byddan nhw’n gweithio gyda thîm Cartrefi Caerffili y Cyngor i drawsnewid safle hen gynllun tai lloches Cwrt y Castell yn 16 o gartrefi fforddiadwy, sy’neffeithlon o ran ynni, gan helpu diwallu anghenion tai lleol wrth greu lle y gall y gymuned ymfalchïo ynddo.

Bydd y gwaith paratoi yn dechrau yn y misoedd nesaf, ac mae disgwyl i waith dymchwel yr adeilad presennol ddechrau’n gynnar yn yr hydref cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau.

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerffili ac Aelod Cabinet dros Dai, “Mae hon yn garreg filltir gyffrous i’r prosiect ac i’r gymuned leol. Bydd y cartrefi newydd hyn yn darparu tai o ansawdd uchel mawr eu hangen gan roi bywyd newydd i safle segur. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Jones Brothers i gyflawni datblygiad a fydd o fudd i bobl leol am flynyddoedd i ddod.”

Ychwanegodd Gareth Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Jones Brothers: “Rydyn ni’n falch iawn i weithio gyda Chartrefi Caerffili i ddarparu 16 o gartrefi fforddiadwy, cynaliadwy ac o ansawdd uchel ym Mhont-y-waun, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at chwarae ein rhan wrth adfywio’r safle.”

Bydd trigolion yn cael diweddariadau rheolaidd wrth i’r prosiect fynd rhagddo, gan gynnwys rhybudd ymlaen llaw o weithgareddau adeiladu allweddol.

Newyddion arall

Cymuned Tŷ Darran yn blodeuo gyda phrosiect garddio newydd

2 Medi, 2026
Darllen yr erthygl

Cabinet yn cymeradwyo polisi rhent canolradd

2 Mehefin, 2026
Darllen yr erthygl

Cyfleusterau newydd wedi’u hagor yn swyddogol yn Ysgol Uwchradd Islwyn

20 Mai, 2026
Darllen yr erthygl

O weledigaeth i gymuned fywiog: agoriad swyddogol cynllun byw bywyd hŷn blaenllaw yn Rhisga

10 Mawrth, 2026
Darllen yr erthygl