Fe wnaethon ni weithio mewn partneriaeth â’r arbenigwr adeiladu Willmott Dixon i ddatblygu llety rhagorol ar gyfer byw bywyd hŷn ar safle hen gartref gofal Tŷ Darran yn Rhisga.
Mae cynllun byw bywyd hŷn newydd Tŷ Darran yn cynnwys 45 o fflatiau ag un ystafell wely ar gyfer preswylwyr presennol 60 oed a hŷn.
Mae’n wahanol i unrhyw beth rydyn ni fel Cyngor wedi’i gyflawni o’r blaen, ac mae’n gosod y safon ar gyfer datblygiadau Cartrefi Caerffili yn y dyfodol.
Mae ei ddyluniad yn cyfuno arloesedd â’r lefelau uchaf o effeithlonrwydd ynni, gan leihau allyriadau carbon a chadw costau tanwydd preswylwyr i’r lleiafswm.
Mae amrywiaeth eang o fannau cymunedol dan do ac awyr agored wedi’u hymgorffori yn y cynllun, i wella iechyd a lles preswylwyr a hwyluso rhyngweithio â’r gymuned ehangach. Wrth galon y cynllun y mae gardd gymunedol, gyda phlanhigion a mannau eistedd, gan gynnwys man ymgynnull cymunedol.