Cabinet yn cymeradwyo polisi rhent canolradd

2 Mehefin, 2026 | Newyddion

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo’n unfrydol bolisi rhent canolradd newydd, gyda’r nod o ehangu opsiynau tai fforddiadwy i fynd i’r afael ag anghenion lleol.

Mae’r polisi yn cynorthwyo rhaglen y Cyngor i ddarparu 1,000 o gartrefi fforddiadwy, a bydd yn cyflwyno rhagor o gartrefi rhent canolradd i bobl ar incwm isel i gymedrol nad ydyn nhw’n gallu fforddio prynu tŷ ond sy’n gallu fforddio talu mwy na rhent cymdeithasol. Bydd taliadau rhent fel arfer yn cael eu gosod ar tua 80% o lefelau’r farchnad.

Nod y polisi yw:

  • Darparu rhagor o ddewis o ran tai fforddiadwy
  • Cynorthwyo cymunedau cymysg a chynaliadwy
  • Lleihau’r pwysau ar dai cymdeithasol a llety dros dro

Bydd cartrefi rhent canolradd yn cael eu darparu lle mae’r angen wedi’i nodi a lle mae cynlluniau’n hyfyw.

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Dai, “Mae hwn yn gam pwysig i’n helpu ni i fynd i’r afael â’r heriau tai sylweddol sy’n ein hwynebu ni ledled y Fwrdeistref Sirol. Bydd cyflwyno eiddo rhent canolradd yn darparu opsiynau mwy fforddiadwy i drigolion sydd ar hyn o bryd yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai, gan ein helpu ni i ymateb i’r galw cynyddol ac amrywiaeth eang o anghenion.

“Trwy gynnig amrywiaeth ehangach o gartrefi o fewn ein datblygiadau, gallwn ni greu cymunedau mwy cytbwys a chynaliadwy tra hefyd helpu lleihau’r pwysau ar lety dros dro.”

Mae’r adroddiad llawn ar gael yma.

Newyddion arall

Cymuned Tŷ Darran yn blodeuo gyda phrosiect garddio newydd

2 Medi, 2026
Darllen yr erthygl

Y Cyngor yn cadarnhau contractwr ar gyfer cartrefi newydd ym Mhont-y-waun

20 Awst, 2026
Darllen yr erthygl

Cyfleusterau newydd wedi’u hagor yn swyddogol yn Ysgol Uwchradd Islwyn

20 Mai, 2026
Darllen yr erthygl

O weledigaeth i gymuned fywiog: agoriad swyddogol cynllun byw bywyd hŷn blaenllaw yn Rhisga

10 Mawrth, 2026
Darllen yr erthygl