Gwaith i ddechrau ar gyfleusterau newydd yn Ysgol Uwchradd Islwyn

24 Hydref, 2025 | Newyddion

Mae gwaith adeiladu ar fin dechrau yn Ysgol Uwchradd Islwyn yn Oakdale, gan nodi dechrau prosiect cyffrous i ddarparu man chwarae amlddefnydd newydd a chanolfan gymorth arbenigol i ddisgyblion.

Bydd y cynllun, a gafodd ei gymeradwyo gan Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn 2024, yn golygu buddsoddi tua £950,000 mewn gwaith gwella.

Mae’r cwmni McAvoy wedi’i benodi i wneud y gwaith, gyda’r prosiect yn cael ei reoli gan Cartrefi Caerffili, sef is-adran dai y Cyngor. Mae disgwyl i’r gwaith ddechrau ar 27 Hydref 2025, a’i gwblhau yn y flwyddyn newydd.

Bydd y man chwarae amlddefnydd newydd yn cael ei adeiladu yn nhir yr ysgol, gan ddisodli’r cyfleuster a oedd wedi’i leoli gynt ar safle Ysgol Gyfun Oakdale. Mae’r safle tir llwyd yn cael ei ailddatblygu ar hyn o bryd, i greu Lle Cwm Derwen; datblygiad deiliadaeth gymysg blaenllaw o gartrefi eco.

Ochr yn ochr â’r man chwarae amlddefnydd, bydd Ysgol Uwchradd Islwyn yn creu ardal gymorth amlddisgyblaethol newydd i ddisgyblion i ddarparu cymorth arbenigol ac ymyriadau wedi’u teilwra, gan eu helpu nhw i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder i reoli eu dysgu a’u lles.

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet Cyngor Caerffili dros Dai, “Mae’r man chwarae amlddefnydd newydd a’r cyfleusterau cymorth i ddisgyblion yn Ysgol Uwchradd Islwyn yn enghraifft wych o sut mae ein buddsoddiad mewn tai ac isadeiledd cymunedol yn mynd law yn llaw.

“Wrth i’r gwaith fynd rhagddo ar ddatblygiad tai Lle Cwm Derwen, mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i gyflawni ein hymrwymiad i’r gymuned ehangach trwy ddarparu amwynderau modern, hygyrch sydd o fudd i bawb.”

Newyddion arall

Cabinet yn cymeradwyo polisi rhent canolradd

2 Mehefin, 2026
Darllen yr erthygl

Cyfleusterau newydd wedi’u hagor yn swyddogol yn Ysgol Uwchradd Islwyn

20 Mai, 2026
Darllen yr erthygl

O weledigaeth i gymuned fywiog: agoriad swyddogol cynllun byw bywyd hŷn blaenllaw yn Rhisga

10 Mawrth, 2026
Darllen yr erthygl

Y Cyngor yn ceisio barn ar bolisi rhent canolradd

27 Ionawr, 2026
Darllen yr erthygl