Rhodd contractwr yn helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd

17 Tachwedd, 2023 | Newyddion

Mae’r arbenigwr adeiladu Willmott Dixon wedi rhoi 10 gliniadur i helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd.

Ar hyn o bryd, mae’r contractwr yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i helpu cyflawni ei raglen adeiladu tai uchelgeisiol.

Bydd y grŵp Gwirfoddolwyr Cymunedol Cymru yn Rhisga yn defnyddio’r gliniaduron fel rhan o fenter ddigidol y mae’n ei chyflwyno i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol. Mae’r rhodd yn ychwanegol at 10 gliniadur a gafodd eu rhoi y llynedd gan Willmott Dixon i brosiectau cymunedol ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud y mwyaf o’r buddsoddiad sy’n cael ei wneud drwy ein rhaglen datblygu tai i gynorthwyo ein cymunedau, fel y rhodd hon i’r grŵp Gwirfoddolwyr Cymunedol Cymru.

“Mae’r Cabinet wedi addo adeiladu 1,000 o gartrefi fforddiadwy carbon isel newydd dros y deng mlynedd nesaf a hefyd wedi cymeradwyo cynigion i Willmott Dixon weithio gyda ni i ddatblygu cynllun gwerth cymdeithasol. Bydd y cynllun hwn yn hanfodol i’n helpu i sicrhau ein bod ni’n parhau i ddarparu buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach i’r Fwrdeistref Sirol.”

Ychwanegodd Nicola Millard, Uwch Reolwr Gwerth Cymdeithasol yn Willmott Dixon, “Mae Willmott Dixon yn falch o gefnogi’r fenter hon, sy’n cael effaith mor gadarnhaol, ar y cyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Rydyn ni’n gwybod bod y rhai sy’n cael y gliniaduron yn cael y buddion mwyaf.”

Newyddion arall

Cabinet yn cymeradwyo polisi rhent canolradd

2 Mehefin, 2026
Darllen yr erthygl

Cyfleusterau newydd wedi’u hagor yn swyddogol yn Ysgol Uwchradd Islwyn

20 Mai, 2026
Darllen yr erthygl

O weledigaeth i gymuned fywiog: agoriad swyddogol cynllun byw bywyd hŷn blaenllaw yn Rhisga

10 Mawrth, 2026
Darllen yr erthygl

Y Cyngor yn ceisio barn ar bolisi rhent canolradd

27 Ionawr, 2026
Darllen yr erthygl