Cynnydd yn natblygiad blaenllaw Lle Cwm Derwen

4 Rhagfyr, 2025 | Newyddion

Mae cynnydd yn Lle Cwm Derwen, eco-ddatblygiad deiliadaeth gymysg blaenllaw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar safle hen Ysgol Gyfun Oakdale, wrth i’r cynllun uchelgeisiol barhau i ddatblygu.

Flwyddyn ar ôl i’r gwaith arloesol ddechrau, ymwelodd Aelodau’r Cabinet â’r safle i weld drostyn nhw eu hunain sut mae’r weledigaeth yn dod yn realiti. Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Dai, “Mae’n gyffrous bod yma a gweld y datblygiad yn dod yn fyw.

“Gyda’r argyfwng tai yn parhau i roi pwysau ar gymunedau ledled y wlad, roedden ni’n gwybod bod yn rhaid i ni feddwl yn wahanol fel Cyngor drwy adeiladu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel sy’n amgylcheddol gyfrifol ac yn effeithlon i’w gwresogi. Mae Lle Cwm Derwen yn enghraifft wych o’r weledigaeth honno.

“Mae’r gwaith adeiladu bellach ar y gweill, mae’r cartref sioe a’r ystafell farchnata ar agor, ac rydyn ni eisoes wedi cael ein gwerthiannau cyntaf!”

Os bydd y cynigion cynllunio yn llwyddiannus, y datblygiad fydd y cyntaf o’i fath i’r Cyngor wrth gynnig gwerthu ar y farchnad agored ochr yn ochr â thai fforddiadwy a chymdeithasol.  Mae’r datblygiad yn cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru ac mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau tua gwanwyn 2026.

Dywedodd Ian Jones, Cyfarwyddwr yn Willmott Dixon, “Mae’r daith o’r cysyniad i’r gwaith adeiladu wedi golygu cydweithio, gweledigaeth ac ymrwymiad gan dimau ar draws Cyngor Caerffili a hefyd gan ein partneriaid. Mae pob agwedd ar y prosiect, o ddewis deunyddiau i fannau awyr agored, yn gosod glasbrint ar gyfer datblygiadau preswyl ledled y Fwrdeistref Sirol.”

Mae’r ystafell farchnata yn Lle Cwm Derwen ar agor ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn rhwng 10am a 5pm.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn oakdaleplace.wales/cym neu drwy ffonio 0333 577 4411.

Newyddion arall

O weledigaeth i gymuned fywiog: agoriad swyddogol cynllun byw bywyd hŷn blaenllaw yn Rhisga

10 Mawrth, 2026
Darllen yr erthygl

Y Cyngor yn ceisio barn ar bolisi rhent canolradd

27 Ionawr, 2026
Darllen yr erthygl

Gwaith i ddechrau ar gyfleusterau newydd yn Ysgol Uwchradd Islwyn

24 Hydref, 2025
Darllen yr erthygl

Enw Tŷ Darran i aros ar ôl pleidlais gymunedol

6 Mehefin, 2025
Darllen yr erthygl