Cabinet Caerffili yn cymeradwyo darparu 1000 o gartrefi fforddiadwy newydd

20 Medi, 2023 | Newyddion

Heddiw (20 Medi) mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo’n unfrydol gynlluniau i ddarparu 1000 o gartrefi fforddiadwy carbon isel newydd dros y deng mlynedd nesaf i ddiwallu anghenion lleol cynyddol.

Cafodd y cynigion eu cymeradwyo fel rhan o’r ‘Strategaeth Datblygu a Llywodraethu: ‘Cydadeiladu’. Mae’r strategaeth hefyd yn cynnig sefydlu Bwrdd Prosiect Datblygu a Llywodraethu, a gafodd ei gytuno gan y Cabinet; eu rôl fydd goruchwylio datblygiad rhaglen ddatblygu uchelgeisiol y Cyngor.

Hefyd cymeradwyodd aelodau’r Cabinet gynlluniau i’r Cyngor lofnodi a chytuno i’r egwyddorion allweddol a amlinellir yn Siarter Creu Lleoedd Comisiwn Dylunio Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Ar hyn o bryd mae dros 6,300 o aelwydydd yn chwilio am dai ar Gofrestr Tai Cyffredin Caerffili, gan gynnwys 320 mewn llety dros dro. Mae angen cynyddol am dai yn genedlaethol ac mae hyn yn debygol o godi ymhellach, wrth i’r argyfwng costau byw effeithio ar ragor o aelwydydd.

“Yn ogystal â’n hymrwymiad i ddarparu cartrefi carbon isel fforddiadwy o ansawdd uchel i ddiwallu angen lleol a sicrhau bod costau ynni trigolion yn cael eu cadw mor isel â phosibl, mae ‘ Cydadeiladu’ hefyd yn nodi ein cynlluniau i wneud y mwyaf o’r buddsoddiad sylweddol sy’n cael ei wneud drwy raglen gyflawni’r Cyngor; drwy greu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant newydd a gweithgareddau i gefnogi cadwyni cyflenwi lleol a’r economi gylchol.”

Newyddion arall

O weledigaeth i gymuned fywiog: agoriad swyddogol cynllun byw bywyd hŷn blaenllaw yn Rhisga

10 Mawrth, 2026
Darllen yr erthygl

Y Cyngor yn ceisio barn ar bolisi rhent canolradd

27 Ionawr, 2026
Darllen yr erthygl

Cynnydd yn natblygiad blaenllaw Lle Cwm Derwen

4 Rhagfyr, 2025
Darllen yr erthygl

Gwaith i ddechrau ar gyfleusterau newydd yn Ysgol Uwchradd Islwyn

24 Hydref, 2025
Darllen yr erthygl