Cartrefi ar gyfer y dyfodol – beth sy’n bwysig i chi?
Rydyn ni’n gofyn i bobl 50 oed a hŷn ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ddweud eu dweud ar yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw am ble maen nhw’n byw yn ddiweddarach mewn bywyd.
Mae ymchwilwyr annibynnol, y Rhwydwaith Dysgu a Gwella Tai (Housing LIN), yn cynnal yr astudiaeth ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Bydd canfyddiadau’r ymchwil yn cael eu defnyddio gan y Cyngor i helpu cynllunio tai ar gyfer y dyfodol ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili, gan sicrhau bod y mathau cywir o gartrefi yn y lleoedd cywir i ddiwallu anghenion a dyheadau trigolion.
Mae gofyn i drigolion fynegi’u barn trwy lenwi arolwg byr ar-lein y mae modd dod o hyd iddi yma.
Bydd pawb sy’n llenwi’r arolwg yn cael eu cynnwys mewn raffl i gael cyfle i ennill un o bedwar taleb siopa gwerth £50.
Gall unrhyw un sydd angen help i lenwi’r arolwg neu unrhyw un sydd eisiau fersiwn bapur ffonio 07436 718344 neu e-bostio research@housinglin.org.uk






