Cyngor Caerffili wedi ymuno â’r Siarter Creu Lleoedd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi rhoi ei ymrwymiad i sicrhau bod egwyddorion creu lleoedd wrth galon ei raglen ddatblygu.
Mae’r Cyngor wedi ymuno â Siarter Creu Lleoedd Cymru, sy’n nodi egwyddorion ar gyfer datblygu lleoedd o ansawdd uchel er budd cymunedau. Wrth ymuno â’r Siarter, mae’r Cyngor wedi cytuno i fabwysiadu chwe egwyddor creu lleoedd wrth gynllunio, dylunio a rheoli lleoedd newydd a phresennol.
Mae’r egwyddorion sy’n cael eu hamlinellu yn y Siarter, sydd wedi’i datblygu gan Lywodraeth Cymru a Chomisiwn Dylunio Cymru yn cynnwys:
- Cynnwys pobl a chymunedau wrth ddatblygu cynigion.
- Dewis lleoliadau cynaliadwy ar gyfer datblygiadau newydd.
- Blaenoriaethu teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus.
- Hyrwyddo defnydd cymysg.
- Creu strydoedd a mannau cyhoeddus sy’n gynhwysol, wedi’u diffinio’n dda, yn ddiogel ac yn groesawgar.
- Parchu rhinweddau cadarnhaol ac unigryw lleoedd presennol.
Meddai’r Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd Cyngor Caerffili, “Mae’r ethos creu lleoedd wrth galon y Cyngor. Gan lofnodi’r Siarter, rydyn ni’n dangos ein hymrwymiad cadarn i fabwysiadu agwedd gyfannol at ein holl ddatblygiadau.”






