Enw Tŷ Darran i aros ar ôl pleidlais gymunedol
Mae trigolion Rhisga wedi pleidleisio i gadw enw Tŷ Darran ar gyfer ei gynllun byw bywyd hŷn newydd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithio gyda’r arbenigwr adeiladu Willmott Dixon i gyflawni’r datblygiad arloesol o 45 o fflatiau ar safle hen gartref gofal Tŷ Darran, sydd i fod wedi’i gwblhau yn yr hydref eleni.
Bydd y ‘Tŷ Darran’ newydd yn dod yn gartref i breswylwyr o gynlluniau tai lloches presennol yn yr ardal sydd i fod i gau. Cymerodd preswylwyr y dyfodol a’r gymuned ehangach ran mewn arolwg i ddewis enw ar gyfer y datblygiad newydd, gyda 67% o bobl yn pleidleisio i gadw hanes diweddar y safle trwy gadw enw’r cartref gofal.
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Caerffili, “Yn gyntaf, hoffwn i ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Rydyn ni’n gwybod bod gan lawer o bobl atgofion melys o’r safle hwn, ac rydyn ni wedi ymrwymo o’r cychwyn cyntaf i sicrhau bod y gymuned yn parhau i fod wrth wraidd y datblygiad hwn.
“Mae hwn yn gynllun blaenllaw i’r Cyngor a bydd yn wahanol i unrhyw beth rydyn ni wedi’i gyflawni o’r blaen, gan gyfuno atebion arbed ynni arloesol gyda nodweddion dylunio cain a mannau hyblyg i ddiwallu anghenion preswylwyr.
“Mae’r gwaith yn mynd rhagddo nawr ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu preswylwyr i gartrefi Tŷ Darran.”