Cymeradwyo datblygiadau tai blaenllaw

18 Tachwedd, 2023 | Newyddion

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo cynlluniau terfynol unfrydol ar gyfer dau ddatblygiad tai blaenllaw yn Oakdale a Rhisga.

Mae’r datblygiadau’n golygu y bydd safleoedd segur yn hen Ysgol Gyfun Oakdale a chartref gofal Tŷ Darran, Rhisga yn cael eu trawsnewid fel rhan o raglen adeiladu tai uchelgeisiol y Cyngor.

Cymeradwyodd aelodau’r Cabinet gynigion i dîm Cartrefi Caerffili’r Cyngor ymrwymo i Gytundeb Cyflawni, ar gyfer datblygu’r ddau safle, gyda’r arbenigwr adeiladu Willmott Dixon. Fe wnaeth y Cabinet hefyd roi ei gymorth i lunio cynllun gwerth cymdeithasol; gyda’r nod o sicrhau manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach i Fwrdeistref Sirol Caerffili.

Bydd Oakdale yn elwa ar ddatblygiad deiliadaeth gymysg blaenllaw, y cyntaf o’i fath ar gyfer Cyngor Caerffili, sy’n cynnwys 92 o gartrefi newydd. Fe wnaeth aelodau’r Cabinet hefyd gymeradwyo cynllun byw bywyd hŷn ar y safle a fydd, os yw’n cael ei gymeradwyo, yn adleoli preswylwyr o gynllun tai lloches Tŷ Melin y Cyngor yng Nghroespenmaen.

Bydd datblygiad Rhisga yn cynnwys cynllun byw bywyd hŷn, gyda 45 o unedau arloesol. Ar ôl ei gwblhau, bydd y datblygiad newydd yn cael ei ddefnyddio i adleoli preswylwyr presennol o gynlluniau tai lloches yn yr ardal sy’n mynd i gau.

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Dyma garreg filltir arwyddocaol o ran cyflawni ein hymrwymiad i adeiladu 1,000 o gartrefi fforddiadwy carbon isel newydd dros y deng mlynedd nesaf.

“Bydd datblygiadau Oakdale a Rhisga yn wahanol i unrhyw beth mae’r Cyngor wedi  ei gyflawni o’r blaen; cyfuno arloesedd â dylunio o safon uchel i sicrhau bod costau tanwydd ac allyriadau carbon yn cael eu cadw i’r lefelau isaf posibl, gan greu cymunedau iach cynaliadwy a chwrdd ag angen lleol cynyddol am dai.

“Mae gwneud y mwyaf o’r buddsoddiad sy’n cael ei wneud drwy ein rhaglen adeiladu tai yn flaenoriaeth allweddol arall i ni a bydd y cynllun gwerth cymdeithasol yn helpu i sicrhau bod buddion ehangach yn cael eu darparu i’n cymunedau.”

Newyddion arall

Gwaith i ddechrau ar gyfleusterau newydd yn Ysgol Uwchradd Islwyn

24 Hydref, 2025
Darllen yr erthygl

Enw Tŷ Darran i aros ar ôl pleidlais gymunedol

6 Mehefin, 2025
Darllen yr erthygl

Cartrefi ar gyfer y dyfodol – beth sy’n bwysig i chi?

30 Mai, 2025
Darllen yr erthygl

Cyngor Caerffili wedi ymuno â’r Siarter Creu Lleoedd

9 Ebrill, 2025
Darllen yr erthygl