
Mae gwaith adeiladu ar fin dechrau yn Ysgol Uwchradd Islwyn yn Oakdale, gan nodi dechrau prosiect cyffrous i ddarparu man chwarae amlddefnydd newydd a chanolfan gymorth arbenigol i ddisgyblion. Bydd y cynllun, a gafodd ei gymeradwyo gan Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn 2024, yn golygu buddsoddi tua £950,000 mewn gwaith gwella. Mae’r cwmni McAvoy […]

Mae trigolion Rhisga wedi pleidleisio i gadw enw Tŷ Darran ar gyfer ei gynllun byw bywyd hŷn newydd. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithio gyda’r arbenigwr adeiladu Willmott Dixon i gyflawni’r datblygiad arloesol o 45 o fflatiau ar safle hen gartref gofal Tŷ Darran, sydd i fod wedi’i gwblhau yn yr hydref eleni. Bydd […]

Rydyn ni’n gofyn i bobl 50 oed a hŷn ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ddweud eu dweud ar yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw am ble maen nhw’n byw yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae ymchwilwyr annibynnol, y Rhwydwaith Dysgu a Gwella Tai (Housing LIN), yn cynnal yr astudiaeth ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Bydd canfyddiadau’r […]

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi rhoi ei ymrwymiad i sicrhau bod egwyddorion creu lleoedd wrth galon ei raglen ddatblygu. Mae’r Cyngor wedi ymuno â Siarter Creu Lleoedd Cymru, sy’n nodi egwyddorion ar gyfer datblygu lleoedd o ansawdd uchel er budd cymunedau. Wrth ymuno â’r Siarter, mae’r Cyngor wedi cytuno i fabwysiadu chwe egwyddor creu […]

Mae cynigion i adeiladu tai fforddiadwy newydd ar safle hen gynllun tai lloches wedi cael eu cymeradwyo gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae Cartrefi Caerffili, sef adran dai y Cyngor, yn bwriadu adeiladu 16 o dai rhent cymdeithasol ar hen safle Cwrt y Castell ar Silver Street, Pont-y-waun. Bydd y datblygiad yn cynnwys […]

Mae gwaith wedi dechrau i drawsnewid safle hen ysgol Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ddatblygiad tai blaenllaw. Yr wythnos hon, fe wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddathlu ‘torri tir newydd’ yn swyddogol ar hen safle Ysgol Gyfun Oakdale. Y datblygiad hwn fydd y cyntaf o’i fath i’r Cyngor o ran cynnig gwerthiannau marchnad agored, ochr yn […]

Mae gwaith wedi dechrau i ddatblygu cynllun blaenllaw ar gyfer byw bywyd hŷn ar safle hen gartref gofal Tŷ Darran yn Rhisga. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithio gyda’r arbenigwr adeiladu, Willmott Dixon, i gyflawni’r cynllun arloesol. Mae’r cynllun wedi ei ddylunio â’r lefelau uchaf o effeithlonrwydd ynni, lleihau allyriadau carbon a chadw costau […]

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi prynu eiddo preifat i ddarparu tai ar gyfer teuluoedd a fyddai, fel arall, yn eu cael eu hunain yn byw mewn llety dros dro. Hyd yn hyn, mae’r Cyngor wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru, drwy’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro, i brynu ac adnewyddu 17 o […]

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithio gyda phartneriaid cymdeithasau tai i adolygu ei Bolisi Dyrannu Cyffredin presennol, gyda’r nod o’i gwneud yn haws i bobl wneud cais am dai cymdeithasol gan hefyd yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng tai. Ers cyflwyno Cofrestr Tai Cyffredin Caerffili ym mis Rhagfyr 2016, mae nifer y […]

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo cynlluniau terfynol unfrydol ar gyfer dau ddatblygiad tai blaenllaw yn Oakdale a Rhisga. Mae’r datblygiadau’n golygu y bydd safleoedd segur yn hen Ysgol Gyfun Oakdale a chartref gofal Tŷ Darran, Rhisga yn cael eu trawsnewid fel rhan o raglen adeiladu tai uchelgeisiol y Cyngor. Cymeradwyodd aelodau’r Cabinet […]