Ble bydd y datblygiad newydd?
Bydd y datblygiad wedi'i leoli ar safle hen gynllun tai lloches Cwrt y Castell, yn Silver Street, Pont-y-waun.
Pwy sy'n datblygu'r safle?
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sy'n datblygu'r safle, gyda'i dîm tai, Cartrefi Caerffili, yn gyfrifol am oruchwylio'r prosiect. Bydd y tîm yn penodi contractwyr ac ymgynghorwyr arbenigol i helpu cyflawni'r prosiect; bydd manylion y rhain yn cael eu rhannu gyda thrigolion wrth iddyn nhw ddod i law.
Sut mae'r datblygiad yn cael ei ariannu?
Mae cyllid yn dod o gyfuniad o fuddsoddiad y Cyngor a chymorth grant allanol (fel Llywodraeth Cymru), wedi'u dyrannu i wella'r ddarpariaeth tai lleol.
Ydy hyn yn golygu y bydd Treth y Cyngor yn cynyddu i dalu am adeiladu tai newydd?
Nid yw Treth y Cyngor yn cael ei defnyddio at y diben hwn. Mae incwm rhenti o gartrefi presennol yn cael ei ailgylchu i gynnal cartrefi presennol ac adeiladu cartrefi newydd.
Faint o gartrefi sy'n cael eu hadeiladu?
8 fflat ag un ystafell wely, 4 cartref â dwy ystafell wely a 4 cartref â thair ystafell wely.
Pam mae'r cartrefi yn cael eu hadeiladu?
Dylai pawb allu cael cartref fforddiadwy diogel, o ansawdd uchel. Ond, wrth i'r argyfwng tai cenedlaethol barhau, mae'r galw am bob math o gartrefi yn cynyddu. Bydd cartrefi yn y datblygiad hwn ar gael ar gyfer rhent cymdeithasol i helpu diwallu anghenion tai lleol.
Beth yw'r amserlenni?
Nid oes amserlenni ar gael eto. Byddwn ni'n rhannu rhagor o wybodaeth gyda thrigolion ar ôl penodi contractwr.
Pwy fydd yn byw yn y cartrefi newydd?
Bydd cartrefi yn y datblygiad yn cael eu dyrannu i bobl gymwys sydd wedi'u cofrestru ar gyfer tai cymdeithasol ar gofrestr tai cyffredin Caerffili, yn unol â'r polisi dyrannu cyffredin.
Sut gall pobl wneud cais am rentu cartref yn y datblygiad?
I wneud cais i'r gofrestr tai cyffredin, llenwch y ffurflen ar-lein yma:
www.homesearchcaerphilly.org (Mae dewis iaith ar gael ar waelod y dudalen we.)