Cartrefi ar gyfer y dyfodol – beth sy’n bwysig i chi?

30 Mai, 2025 | Newyddion, Uncategorized @cy

Rydyn ni’n gofyn i bobl 50 oed a hŷn ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ddweud eu dweud ar yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw am ble maen nhw’n byw yn ddiweddarach mewn bywyd.

Mae ymchwilwyr annibynnol, y Rhwydwaith Dysgu a Gwella Tai (Housing LIN), yn cynnal yr astudiaeth ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Bydd canfyddiadau’r ymchwil yn cael eu defnyddio gan y Cyngor i helpu cynllunio tai ar gyfer y dyfodol ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili, gan sicrhau bod y mathau cywir o gartrefi yn y lleoedd cywir i ddiwallu anghenion a dyheadau trigolion.

Mae gofyn i drigolion fynegi’u barn trwy lenwi arolwg byr ar-lein y mae modd dod o hyd iddi yma.

Bydd pawb sy’n llenwi’r arolwg yn cael eu cynnwys mewn raffl i gael cyfle i ennill un o bedwar taleb siopa gwerth £50.

Gall unrhyw un sydd angen help i lenwi’r arolwg neu unrhyw un sydd eisiau fersiwn bapur ffonio 07436 718344 neu e-bostio research@housinglin.org.uk 

Newyddion arall

Gwaith i ddechrau ar gyfleusterau newydd yn Ysgol Uwchradd Islwyn

24 Hydref, 2025
Darllen yr erthygl

Enw Tŷ Darran i aros ar ôl pleidlais gymunedol

6 Mehefin, 2025
Darllen yr erthygl

Cyngor Caerffili wedi ymuno â’r Siarter Creu Lleoedd

9 Ebrill, 2025
Darllen yr erthygl

Cymeradwyo cynigion ar gyfer tai newydd ym Mhontywaun

18 Mawrth, 2025
Darllen yr erthygl