Y Cyngor yn torri tir newydd ar ddatblygiad tai blaenllaw

27 Tachwedd, 2024 | Newyddion, Uncategorized @cy

Mae gwaith wedi dechrau i drawsnewid safle hen ysgol Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ddatblygiad tai blaenllaw.

Yr wythnos hon, fe wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddathlu ‘torri tir newydd’ yn swyddogol ar hen safle Ysgol Gyfun Oakdale. Y datblygiad hwn fydd y cyntaf o’i fath i’r Cyngor o ran cynnig gwerthiannau marchnad agored, ochr yn ochr â thai fforddiadwy a chymdeithasol.

Mae’r Cyngor wedi penodi’r arbenigwr adeiladu Willmott Dixon i ddatblygu 92 o gartrefi eco ar safle ‘Oakdale Place’. Mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau tua gwanwyn 2026.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerffili, y Cynghorydd Sean Morgan, “Y llynedd fe wnaethom ni ymrwymo, fel Cyngor, i adeiladu 1,000 o gartrefi carbon isel fforddiadwy dros y 10 mlynedd nesaf.  Wrth inni dorri tir newydd, ar ddatblygiad arloesol i Gaerffili, rydyn ni’n gallu gweld bod yr addewid hwnnw’n cael ei gyflawni.

“Yn ogystal â darparu cartrefi o ansawdd uchel sy’n fforddiadwy i’w cynnal, ein gweledigaeth ar gyfer Oakdale Place yw creu cymuned gynaliadwy y mae pobl yn dewis byw ynddi. Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i sicrhau bod y buddsoddiad sylweddol sy’n cael ei wneud yn darparu buddion llawer ehangach ac yn gadael etifeddiaeth i gymunedau lleol; mae ein partneriaeth gyda Willmott Dixon yn hanfodol i gyflawni hyn.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet dros Dai, “Wrth i’r argyfwng tai cenedlaethol barhau, mae yna frwydr i adeiladu cartrefi yn ddigon cyflym i ateb y galw. Felly, rydyn ni’n cydnabod bod angen i ni feddwl yn wahanol fel Cyngor a dod o hyd i ffyrdd arloesol o ddarparu cartrefi i’r rhai sydd eu hangen nhw.

“Mae Oakdale Place yn enghraifft wych o hyn, trwy gymryd safle tir llwyd segur a’i drawsnewid yn gymuned o gartrefi ynni-effeithlon. Yn ogystal â helpu ateb y galw cynyddol am dai cymdeithasol, bydd y tai hefyd yn cynnig cyfleoedd i brynwyr sy’n prynu cartref am y tro cyntaf gael troed ar yr ysgol dai trwy berchentyaeth cost isel, yn ogystal â gwerthu ar y farchnad agored.”

Dywedodd Ian Jones, Cyfarwyddwr Willmott Dixon, “Mae ein partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dyddio’n ôl i 2019, gyda’r prosiect yn Oakdale yn nodi’r trydydd prosiect rydyn ni wedi cydweithio arno. Mae Willmott Dixon a’r Cyngor yn rhannu ymrwymiad i ansawdd dros gost, gan arddangos ein hymroddiad i arferion arloesol sy’n cael eu gyrru gan werth. Fel rhan o’n hymrwymiad, rydyn ni, unwaith eto, yn falch o weithio gyda’r gwneuthurwr lleol, Caledan, i ddylunio ac adeiladu’r eiddo, gan ddefnyddio datrysiad panel ffrâm ddur blaengar. Mae safonau adeiladu’r prosiect yn Oakdale yn cynnig tai modern, cyfforddus sy’n rhoi blaenoriaeth i gysur preswylwyr a chynaliadwyedd amgylcheddol. Rydyn ni’n falch o gyflawni’r prosiect hwn, a fydd yn parhau i fod o fudd i gymuned Caerffili, a’i gwasanaethu.”

Newyddion arall

Gwaith i ddechrau ar gyfleusterau newydd yn Ysgol Uwchradd Islwyn

24 Hydref, 2025
Darllen yr erthygl

Enw Tŷ Darran i aros ar ôl pleidlais gymunedol

6 Mehefin, 2025
Darllen yr erthygl

Cartrefi ar gyfer y dyfodol – beth sy’n bwysig i chi?

30 Mai, 2025
Darllen yr erthygl

Cyngor Caerffili wedi ymuno â’r Siarter Creu Lleoedd

9 Ebrill, 2025
Darllen yr erthygl