Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â’r arbenigwr adeiladu Willmott Dixon i ddatblygu llety rhagorol byw bywyd hŷn ar safle hen gartref gofal Tŷ Darran yn Rhisga.
Bydd y datblygiad newydd yn cynnwys 45 o fflatiau ag un ystafell wely a bydd yn cael ei ddefnyddio i adleoli preswylwyr presennol o gynlluniau tai lloches yn yr ardal sy’n mynd i gau.
Bydd yn wahanol i unrhyw beth yn narpariaeth tai lloches presennol y Cyngor a bydd yn gosod y safon ar gyfer datblygiadau Cartrefi Caerffili yn y dyfodol. Mae ei ddyluniad yn cyfuno arloesedd â’r lefelau uchaf o effeithlonrwydd ynni, gan leihau allyriadau carbon a chadw costau tanwydd preswylwyr i’r lleiafswm.
Mae amrywiaeth eang o fannau cymunedol dan do ac awyr agored wedi’u hymgorffori yn y cynllun, i wella iechyd a lles preswylwyr a hwyluso rhyngweithio â’r gymuned ehangach. Wrth galon y cynllun bydd gardd gymunedol, gyda phlanhigion a mannau eistedd, gan gynnwys man ymgynnull cymunedol.