Mae arloesi, gwytnwch hinsawdd ac effeithlonrwydd adeiladwaith wrth wraidd ein rhaglen ddatblygu. Yn haf 2021 fe wnaethom ni gychwyn ar daith gyffrous i ddod â chartrefi newydd i’r Fwrdeistref Sirol, gyda rhaglen Beilot Tai Arloesol a fydd yn darparu 18 o fflatiau un ystafell wely, i’w rhentu’n gymdeithasol, ar draws dau safle tir llwyd bach ym masn Caerffili.
Gan weithio gyda’r arbenigwr adeiladu Willmot Dixon a’r gwneuthurwr dur lleol Caledan, ni oedd yr Awdurdod Lleol cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio dulliau modern o adeiladu a thechnegau gweithgynhyrchu i ddatblygu cartrefi modiwlaidd sydd â ffrâm ddur i safon ardystiedig Passivhaus.
Cafodd y prosiect gymorth gan gyllid o £3.1 miliwn gan Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru.
Mae costau ynni cynyddol a phryderon hinsawdd yn uchel ar agenda’r Cyngor a nod Peilot Tai Arloesol Caerffili yw mynd i’r afael â’r rhain, gan hefyd yn darparu cartrefi diogel a sicr i’r rhai sydd â’r angen mwyaf.
Trwy fabwysiadu dull adeiladwaith yn gyntaf, mae’r cartrefi’n cynnwys lefelau uchel iawn o insiwleiddio, ffenestri gwydr triphlyg hynod o uchel eu perfformiad gyda fframiau wedi’u hinswleiddio, adeiladwaith aerdyn ac anhylosg a system awyru gwres mecanyddol.